Gyda phrops cydbwysedd bydd gofyn cydbwyso eich corff cyfan ar y prop.
Mae sawl gwahanol math o stilt, rhai ohonyn nhw'n addas ar gyfer symudiadau acrobatig athletig a rhedeg eithafol, fel y naid pro (pro jump), a stiltiau cangar?.
Gweithred |
Er mwyn bod yn llwyddiannus |
Cyngor i'ch helpu |
|
1 |
Ymddaliad ar gyfer pob prop cydbwysedd |
Cadwch eich cefn yn syth |
- Cadwch eich cefn yn unionsyth a'ch ysgwyddau wedi ymlacio i lawr a'ch cyhyrau craidd yn gweithio i gadw'r cefn yn gryf. - Dychmygwch ddarn o linyn yn eich tynnu i fyny o'ch corun! Mi wnaiff hynny helpu'ch ymddaliad. |
Edrychwch ymlaen |
- Edrychwch ymlaen bob amser, nid i lawr ar eich traed. |
||
Cadwch eich pengliniau'n 'feddal' |
- Dylai eich pengliniau fod o dan eich cluniau, a dylai'ch traed fod yn syth ac o dan eich pengliniau. Dylai eich pengliniau fod wedi plygu fymryn fel eich bod yn gallu derbyn unrhyw ardrawiad heb gael anaf. |
||
2 Stiltiau |
Diogelwch Gyntaf! |
Gwisgwch arfwisg |
- Mae'n holl bwysig fod gennych warchodwyr arddwrn a phadiau pen-glin sy'n ffitio'n iawn. Pan syrthiwch, bydd y rhain yn eich arbed rhag anafu'ch hun. |
Caewch y strapiau/byclau |
- Gwnewch yn si?r fod y stiltiau cywir gennych ar gyfer eich maint a'ch pwysau. Hefyd gwnewch yn si?r fod pob strap a bwcl wedi'u gosod yn dynn ar eich traed a'ch coesau. |
||
Dysgwch sut mae cwympo'n gywir a defnyddiwch bob cymorth |
- Mae dysgu syrthio'n iawn yn holl bwysig. Rhaid ichi ymarfer hyn pan ddechreuwch. - Pan syrthiwch rhaid ichi gwympo ymlaen ar eich gliniau a sicrhau bob amser eich bod yn syrthio ymlaen ac nid yn ôl. - Wrth ddechrau dysgu cerdded ar stiltiau, gwnewch yn si?r fod gennych oedolyn cryf i'ch helpu gyda'ch cydbwysedd a chwympiadau. |
||
3 |
Safle'r corff |
Codwch eich pengliniau |
- Wrth gerdded, mae'n bwysig codi'r pengliniau'n uchel (plygu i ongl 90 gradd) |
Cadwch eich traed yn syth!! |
- Mae'n bwysig iawn cadw'r traed yn syth (cyflin) wrth gerdded ar stiltiau neu gallai'r stiltiau fwrw yn erbyn ei gilydd a pheri ichi syrthio neu wneud niwed i'r stiltiau. |
||
4 |
Cyfuno sgiliau (defnyddio sgiliau llawdrin ar raddfa fach gyda phrops cydbwysedd) |
Codwch eich lefel sgiliau llawdrin |
- Rhaid i lefel eich sgìl gyda'ch prop llawdrin fod yn dda iawn cyn ichi geisio'i ddefnyddio ar y cyd â phrop cydbwysedd, er enghraifft jyglo rhaeadr 3 pêl yn hollol gadarn. |
Codwch eich lefel sgiliau â phrop cydbwysedd |
- Rhaid ichi allu cadw'ch cydbwysedd ar eich prop (yn llonydd ar feic un olwyn) cyn rhoi cynnig ar sgìl llawdrin ar yr un pryd. |
||
Defnyddiwch bob cymorth |
- Bydd angen cymorth gan athro/athrawes pan ddechreuwch gyfuno sgiliau. Bydd yn gallu eich helpu os collwch gydbwysedd neu os gollyngwch eich prop llawdrin. |
||
5 Rola Bola |
Cychwyn arni |
Defnyddiwch fat Diogelwch |
- Mae'n bwysig cael mat campfa dan y Rola-bola wrth ddysgu er mwyn osgoi cael anaf. |
Defnyddiwch bob cymorth |
- Rhaid cael oedolyn cryf i afael amdano wrth ddysgu er mwyn osgoi syrthio'n rhy aml. |
||
Gwiriwch safle'r traed |
- Rhowch eich troed gyntaf ar y pen o'r bwrdd sy'n cyffwrdd y llawr. Pan fydd y ddwy droed ar y bwrdd dylent fod bellter cyfartal oddi wrth ddau ben y bwrdd a phwyntio'n syth ymlaen. |
||
6 |
Cydbwyso Sylfaenol |
Cydbwyswch yn iawn |
- Unwaith y mae eich traed yn y safle cywir, mae angen trosglwyddo'ch pwysau i'r droed uchaf. Wedi dechrau cadw cydbwysedd cofiwch blygu'ch pengliniau a cheisio cadw rhan uchaf eich corff yn llonydd. |
Sythwch y bwrdd! |
- Dylai'r bwrdd wastad fod yn gyflin â'r tiwb. Os yw'r bwrdd yn troi o amgylch, camwch oddi arno, sythu'r bwrdd a'r tiwb, a dechrau eto. |
||
7 |
Cerdded y Tiwb |
Gwellwch eich techneg |
- Rhowch belen eich troed dde ar y tiwb, a rholio'r tiwb ymlaen nes cyrraedd eich sawdl, wedyn rhowch belen y droed chwith ar y tiwb, fel bod eich pwysau bellach yn gyfan gwbl ar y tiwb. Wrth i'r droed chwith symud ymlaen bydd angen codi'r droed dde a gosod pelen y droed dde'n ôl ar y tiwb i barhau i rolio. Daliwch i symud fel hyn. Gydag ymarfer byddwch yn cerdded cyn bo hir. |
Ewch tuag yn ôl! |
- Rhowch gynnig ar yr un tric ond tuag yn ôl! Defnyddiwch yr un dechneg ond dechreuwch gyda'ch sawdl a rholio i belen eich troed. |
||
8 Beic un olwyn |
Cychwyn Arni |
Addaswch uchder y beic un olwyn |
- Os yw sedd y beic un olwyn yn rhy isel neu'n rhy uchel bydd yn anoddach ei reidio. Dylai'r sedd fod yn lefel â'ch clun. |
Gwiriwch safle'r pedal |
- Rhowch eich troed gryfaf ar y pedal yn gyntaf a gwnewch yn si?r fod y pedal ar waelod yr olwyn, nid ar ei brig. |
||
Cadwch linell fertigol o ganol yr olwyn at gorun y pen |
- Cadwch eich cefn yn syth, gan symud eich cluniau ymlaen neu'n ôl os oes angen er mwyn creu llinell syth. |
||
9 |
Reidio |
Osgowch ddal y sedd â'ch llaw |
- Ceisiwch beidio dal y sedd â'ch dwylo; gwasgwch eich coesau yn erbyn y sedd i'w dal yn ei lle ac wedyn defnyddiwch eich breichiau i gadw cydbwysedd. |
Gwnewch yn si?r nad ydych chi'n mynd yn rhy araf |
- Ceisiwch beidio pedalu'n araf; bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach reidio. Bydd ychydig mwy o gyflymder yn hwyluso cadw cydbwysedd. |
||
Ceisiwch reidio i fan agored |
- Dechreuwch reidio wrth wal neu reilen; wedyn gollyngwch weithiau, a'i defnyddio dim ond pan fydd angen. |
||
10 |
Sefyllian |
Symudwch y pedalau |
- Mae angen i'r pedalau fod yn wastad â'r droed arweiniol yn y blaen, wedyn gwnewch hanner cylch am yn ôl fel bod y droed flaen yn wastad eto. Daliwch i newid am yn ôl ac ymlaen. Defnyddiwch wal i'ch helpu i gadw cydbwysedd. |
Arweiniwch â'r ddwy droed |
- Dysgwch sefyllian â'r ddwy droed yn arwain ar wahanol adegau. |
||
Rhowch eich breichiau yn y safle cywir |
- Daliwch eich breichiau allan i'r ochr, wedi'u plygu ychydig, i'ch helpu i gadw cydbwysedd. |