Mae a wnelo hyn â thrin amryfal bethau bach, yn aml fwy nag un ar y tro. Yn y categori hwn rydym wedi rhoi sgiliau fymryn yn uwch, fel:
Ffyn diafol/Ffyn lwna/ffyn blodyn: tair ffon yw'r prop yma, dau ohonyn nhw yn y dwylo (ffyn llaw) ac un sy'n fwy ac yn drymach (diafol/lwna/blodyn) a gaiff ei thrin i wneud triciau gan ddefnyddio'r ddwy ffon law.
Poi: Creu patrymau siglo â dwy eitem drom ar raff neu gadwyn. Adeiledir triciau i fyny o gylchoedd syml i batrymau gwead a blodau cymhleth, lle mae'n rhaid i'r llaw dde a'r chwith wneud gwahanol bethau.
Jyglo: y grefft o gadw tri pheth neu fwy i symud drwy'r awyr ar yr un pryd.
Gweithred |
Er mwyn bod yn llwyddiannus |
Cyngor i'ch helpu |
||
1 Jyglo |
Rhaeadru tair pêl |
Penderfynwch pa law i daflu'r bêl gyntaf ohoni |
- Dechreuwch o'r llaw a ddefnyddiwch yn naturiol i ysgrifennu neu arwain. - Wedyn ymarferwch daflu'r bêl gyntaf o'r llaw sy'n cynnwys dwy bêl. - Dechreuwch o law wahanol bob tro. |
|
Gwellwch y ffordd rydych yn pasio'r bêl |
- Gwnewch yn si?r eich bod bob amser yn taflu'r peli i fyny a throsodd i'r llaw arall, nid dim ond eu pasio. |
|||
Taflwch ar uchderau gwahanol |
Taflwch y peli o'r ddwy law ychydig yn uwch na lefel y llygaid. |
|||
2 |
Safle'r corff |
Gwiriwch y bwlch rhwng y ddwy law |
- Dylai'ch dwylo fod led ysgwyddau ar wahân. |
|
Gwnewch yn si?r fod pellter eich dwylo oddi wrth eich corff yn gywir |
- Dylai'ch dau benelin fod ar ongl 90 gradd wrth ochr eich cluniau. |
|||
Cadwch eich cefn a safle'r traed yn gyson |
- Cadwch eich cefn yn syth a'ch traed fymryn fwy na lled ysgwyddau ar wahân. |
|||
3 |
Pastynau |
Taflwch un pastwn |
- Taflwch y pastwn gan ddefnyddio'ch elin i'w daflu. - Peidiwch â thaflu'r pastwn gyda'ch arddwrn yn unig. |
|
Daliwch ddau bastwn mewn un llaw |
- Daliwch un pastwn yn eich bys canol, bys y fodrwy a'r bys bach. - Dylai'ch mynegfys fod gyferbyn â'r tri bys hynny ar ochr arall y goes nesaf at eich bawd. - Rhowch yr ail bastwn rhwng eich bawd a'ch mynegfys fel ei fod yn gorffwys ar yr orffwysfa ar goes y pastwn cyntaf. |
|||
Defnyddiwch dri phastwn |
- Troellwch y pastynau ar yr un cyflymder ac uchder o'r ddwy law. |
|||
4 |
Triciau |
Ewch gan bwyll wrth ymarfer triciau newydd |
- Dadelfennwch y tric yn gyntaf drwy fynd yn ôl at elfennau sylfaenol y tric. - Defnyddiwch un bêl i helpu gwneud hyn a gweithio'ch ffordd i fyny. |
|
Canolbwyntiwch |
- Meddyliwch o ddifrif wrth ddysgu tric newydd a dysgwch beth rydych yn ei wneud o'i le er mwyn gallu cywiro'ch camgymeriadau. |
|||
Cofiwch ymarfer |
- Bydd ymarfer yn rheolaidd, hyd yn oed dim ond deng munud bob dydd, yn gwella'ch jyglo. - Bydd unwaith yr wythnos yn eich gwella'n llawer llai. |
|||
5 Poi |
Cychwyn arni |
Rhowch ddigon o le ichi'ch hun |
- Edrychwch o'ch cwmpas a gwneud yn si?r y gallwch droi'r poi mewn cylch o'ch cwmpas cyn dechrau. Felly fyddwch chi ddim yn taro pobl eraill. |
|
Gafaelwch yn gywir |
- Os oes gan eich poi ddolenni bysedd, gwnewch yn si?r eich bod yn rhoi eich bys cyntaf a'r ail fys drwyddynt. |
|||
Hyd cywir |
- Mae modd addasu rhai poi a bydd eraill yn lapio o amgylch eich llaw. Gwnewch yn si?r na fydd eich poi'n taro'r llawr wrth droi ond eu bod yn ddigon hir i droi o amgylch eich corff. |
|||
6 |
Planau a mwy o driciau |
Troellwch y poi mewn planau |
- Rhowch gynnig ar droelli'r poi tuag ymlaen yn y tri phlân gwahanol. |
|
Ewch am yn ôl |
- Nawr rhowch gynnig ar droelli'r poi am yn ôl yn y tri Phlân. Gwnewch yn si?r fod y planau'n syth. |
|||
Gwnewch fwy o driciau |
- Gan ddefnyddio'r egwyddorion sylfaenol hyn gallwch symud ymlaen at driciau. Edrychwch ar wefannau fel Youtube neu wefannau rhannu fideos eraill am arddangosiadau. |
|||
7 |
Symud gyda'r poi |
Defnyddiwch lefelau gwahanol |
- Ymarferwch wneud y tri phlân gyda'r poi a chithau ar eich gliniau, neu ar flaenau'ch traed, i gael gwahanol uchderau. |
|
Troi gyda'r poi |
Gan ddefnyddio un poi i ddechrau, ceisiwch wneud hanner troadau â'ch corff cyfan i'r naill gyfeiriad a'r llall. |
|||
Holltwch amser y poi |
- Yn y plân olwyn, gwnewch i un poi fynd yn gyflymach fel bod y poi yn ei ddilyn, hanner tro ar ei ôl. |
|||
8 Ffon ddiafol |
Cychwyn arni |
Segurwch â'ch dwylo |
- Gosodwch y ffon ddiafol yn fertigol ar lawr - Penliniwch ar y llawr a bwrw'r hanner uchaf yn ôl a blaen o law i law. - Ceisiwch ei bwrw mewn rhythm gan feddwl bob tro am ei dal yn gyntaf wedyn ei thaflu o'r llaw. |
|
Segurwch â'r ffyn llaw |
- Fel yr uchod ond gan ddefnyddio'r ffyn llaw yn lle eich dwylo. |
|||
Ceisiwch sefyllian yn segur |
- Mae'n bwysig dal y ffon ddiafol yn gyntaf cyn ei bwrw'n ôl. - Peidiwch â'i bwrw'n syth, daliwch hi'n llyfn yn gyntaf. - Ceisiwch wneud i'r ffon law sy'n dal y ffon ddiafol gwrdd â hi hanner ffordd, ei dal yn llyfn ac yna'i thaflu'n ôl. - Bwriwch hi'n ôl a blaen mewn rhythm. |
|||
9 |
Codi'r ffon ddiafol |
Codwch ag un ffon law |
- Gydag un o'ch ffyn llaw, rholiwch y ffon ddiafol ar y ffon law arall, wedyn codwch hi'n syth i'r safle segur. |
|
Codwch â dwy ffon law |
- Defnyddiwch y ddwy ffon law i rolio'r ffon ddiafol tuag atoch wedyn codwch hi â'r ddwy ffon law. |
|||
Ciciwch i fyny |
- Gosodwch y ffon ddiafol ar eich troed - Bachwch hi rhwng ochr uchaf eich troed a'ch crimog, a symudwch eich troed allan ac am i fyny i gicio'r ffon i fyny. |
|||
10 |
Triciau |
Gwnewch drawiad dwbl |
- Segura yw hyn ond gan ddefnyddio'r ddwy ffon law ar yr un pryd. - Wrth i un ffon law fwrw'r hanner uchaf ar un ochr bydd yr ail ffon law'n bwrw'r hanner gwaelod ar yr un pryd ar yr ochr arall. |
|
Croeswch eich breichiau |
- Gosodwch y ffon ddiafol i orwedd ar y ddwy ffon law. - Taflwch hi i fyny i'r awyr. - Croeswch eich breichiau ac wedyn daliwch y ffon ddiafol â'ch breichiau wedi'u croesi - Taflwch y ffon ddiafol i'r awyr o'r safle hwn - Dad-groeswch eich breichiau a dal y ffon ddiafol. |
|||
Gwnewch hanner fflip |
- Gosodwch y ffon ddiafol i orwedd ar y ddwy ffon law. - Taflwch y ffon ddiafol, gan wthio un ochr i fyny'n fwy na'r llall, i fyny i'r awyr, ac ar ôl hanner sbin daliwch hi ar y ffyn. |