Ystyr presenoldeb llwyfan yw sut rydych chi'n edrych ar y llwyfan a'r modd rydych yn cyfleu eich perfformiad i gynulleidfa. Wrth berfformio, rhaid ichi gofio o hyd mai perfformio i gynulleidfa rydych chi a bod yn rhaid i'ch perfformiad fod y gorau posibl. Mae'r gynulleidfa'n awyddus i'ch cefnogi felly mae angen ichi roi sioe iddynt. Gall y ffordd rydych yn ymddwyn ar y llwyfan ddangos eich hyder neu eich diffyg hyder. Mae cyswllt llygaid â'r gynulleidfa'n hollbwysig i sicrhau presenoldeb llwyfan da.
Gweithred |
Er mwyn bod yn llwyddiannus |
Cyngor i'ch helpu |
|
1 |
· Peidio ymddiheuro |
· Gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n gwneud ystumiau sy'n dangos eich bod wedi gwneud camgymeriad neu anghofio rhywbeth |
· Os ydych yn ddigon hyderus eich bod chi wedi ymarfer digon, yna dylech wybod sut i gael eich hun allan o'r twll. Daliwch i feddwl am ffyrdd i gael eich hun yn ôl ar y trywydd cywir - ond cofiwch beidio dangos hyn i'r gynulleidfa. |
· Daliwch i fynd a cheisio peidio cilwenu |
· Os aiff rhywbeth o'i le, daliwch i fynd. Gyda iaith y corff gref gallwch gyfleu ymdeimlad o hyder. Bydd iaith y corff gref a mynegiant hyderus yn eich wyneb yn cuddio camgymeriadau bach oddi wrth y gynulleidfa. Wnaiff un camgymeriad ddim difetha'r perfformiad - gadael i'r camgymeriad hwnnw fod yn ffocws i'ch perfformiad yw'r peth fydd yn effeithio ar eich marc. |
||
2 |
· Peidio amlygu mân gamgymeriadau |
· Cuddiwch fân gamgymeriadau achos weithiau mae'r gynulleidfa'n meddwl mai dyna oedd i fod i ddigwydd |
· Gwnewch gamgymeriadau wrth ymarfer er mwyn gwybod sut deimlad ydyw; wedyn gwnewch yr olygfa eto'n gywir. |
· Cofiwch fwynhau eich perfformiad a'i ddangos orau y gallwch |
· Perfformiwch o flaen ffrindiau a rhowch gamgymeriad i mewn i weld a wnân nhw sylwi. |
||
3 |
· Rhoi eich perfformiad gorau a bod yn hyderus. |
· Ceisiwch beidio dangos eich bod yn nerfus |
· Bydd ymarfer trylwyr yn help i godi'ch hyder a chuddio rhai o'ch nerfau. |
· Codwch ddisgwyliadau mawr ichi'ch hun a'ch grŵp |
· Dewiswch ddarnau y gallwch eu gwneud yn dda a llwyddo ynddynt. Os ceisiwch wneud unrhyw beth sy'n rhy anodd wnewch chi ddim cyrraedd eich llawn botensial. |
||
· Ceisiwch edrych yn hyderus ar lwyfan bob amser |
· Mae cyswllt llygaid â'r gynulleidfa'n dangos eich bod yn eu cynnwys nhw. Ymarferwch o flaen cynulleidfa fach gyntaf ac wedyn adeiladu at berfformiad llawn gyda'ch darpar gynulleidfa. |
||
4 |
· Defnyddio symudiad priodol. |
· Ystyriwch pa le sydd orau o fewn y gofod ichi symud gyda hyder. |
· Mae pob perfformiad yn wahanol - felly recordiwch eich hun yn ymarfer mewn gwahanol rannau o'ch gofod perfformio. Pa ran sydd fwyaf effeithiol i'r gynulleidfa? |
· Sicrhewch fod eich corff yn barod i berfformio |
· Ewch i lecyn distaw i feddwl am yr hyn rydych ar fin ei wneud. Cymerwch funud neu ddau i ddychmygu eich perfformiad a chanolbwyntio ar berfformio orau y gallwch. |
||
· Osgowch ystumiau/symudiadau dros ben llestri a allai dynnu oddi wrth y perfformiad cyfan |
· Mae angen i ystumiau fod yn benodol ac o dan reolaeth. Gofynnwch i ffrind wylio'ch perfformiad a rhoi awgrymiadau am eich symudiadau i gynorthwyo'r perfformiad. |
||
5 |
· Ymarfer o flaen y drych neu ffilmio'ch hun |
· Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa argraff rydych chi'n ei rhoi i'r gynulleidfa |
· Ceisiwch berfformio fel y byddwch yn yr arholiad, o flaen y drych neu ar gamera. Fe wnaiff hyn ddangos yn glir ichi beth mae'r gynulleidfa'n ei weld. Byddwch yn barod i addasu'ch perfformiad i gyfleu'r ddelwedd fwyaf hyderus a chaboledig |
· Edrychwch ar y ddelwedd rydych chi'n ceisio'i chreu ar y llwyfan a byddwch yn hunanfeirniadol |
· Gallwch weld yn y drych neu'r recordiad a ydych yn edrych yn naturiol ai peidio. Peidiwch â theimlo embaras - edrychwch am y pethau da. Chi yw'r person gorau i newid yr hyn rydych chi'n ei wneud. Ceisiwch ymlacio wrth berfformio ac wedyn byddwch yn edrych yn naturiol ar y llwyfan neu yn y gofod. Gall edrych arnoch eich hun deimlo'n chwithig ond os gallwch oresgyn hynny a chraffu ar y pwyntiau da, bydd eich hyder yn tyfu. |
||
6 |
· Edrych ar eraill |
· Codwch awgrymiadau am bethau sy'n gweithio a phethau sydd ddim wrth wylio eraill yn perfformio |
· Gwyliwch aelodau eraill y dosbarth yn perfformio, ac ambell ddisgybl h?n efallai, a nodwch arferion da fel iaith y corff gref neu lais cryf. |
· Gwyliwch berfformwyr proffesiynol wrth eu gwaith er mwyn ichi ystyried eich perfformiad eich hun |
· Drwy edrych ar waith byw neu ar dâp gallwch weld beth sy'n gwneud y perfformiad yn un cryf. Ai hyder y perfformiwr? Ai'r ffordd y mae'r perfformiwr yn defnyddio'r llwyfan yw'r ateb? |
||
7 |
· Ymarfer yn y gofod lle byddwch yn perfformio |
· Byddwch yn ymwybodol o'r gofod lle rydych yn perfformio fel nad ydych chi'n sefyll yn y man anghywir · Gwiriwch y systemau sain a chydbwysedd · Ystyriwch eich safle ar y llwyfan er mwyn cael yr effaith orau |
· Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ymhle y dylech fod yn sefyll neu'n perfformio drwy eich perfformiad cyfan. Ymarferwch yn y lle fwy nag unwaith os gallwch er mwyn canfod y safle gorau. · Gwnewch ymarfer gwisgoedd a thechnegol ymlaen llaw i sicrhau bod ochr dechnegol eich perfformiad mewn cydbwysedd i'r gynulleidfa. Ydyn nhw'n mynd i allu eich clywed chi? · Ydy'r gynulleidfa'n gallu eich gweld? Allwch chi weld y gynulleidfa? Os ewch oddi ar y llwyfan, ble bydd hynny? Bydd gwybod hyn i gyd yn rhoi mwy o sglein ar eich perfformiad. |