Beth bynnag yw eich offeryn - y delyn, y gitâr drydan neu un o'r chwythbrennau - mae techneg dda'n hanfodol i wella'ch perfformiad. Gweithgaredd corfforol yw chwarae offeryn a heb ymarfer rheolaidd bydd eich techneg yn dirywio. Mae gan bob offeryn dechnegau gwahanol ac unigryw, a bydd eich athro arbenigol yn cyflwyno gwahanol ymarferion i'ch helpu a'ch cefnogi i ddatblygu eich gallu technegol ar eich dewis offeryn.
Gweithred |
Er mwyn bod yn llwyddiannus |
Cyngor i'ch helpu |
|
1 |
· Osgo |
· Ymlaciwch o ran eich osgo |
· Hyd yn oed os ydych yn eistedd wrth y piano neu'n sefyll i chwarae'r trwmped, dylech bob amser ddechrau drwy ganolbwyntio ar eich osgo. Dyma ganllaw byr ichi ei ystyried wrth sefyll. Sefwch â'ch cefn yn syth, gan gadw: · eich clustiau'n union uwchben eich ysgwyddau · eich ysgwyddau uwchben eich cluniau · eich traed ar wahân yn wynebu pum munud i un · eich dwylo'n dal/cynnal eich offeryn neu ar yr allweddau. |
· Penderfynwch a ddylech sefyll i berfformio, ynteu eistedd |
· Yn ystod unrhyw ymarfer neu berfformiad, efallai y bydd angen ichi sefyll ac eistedd. Mae osgo da'n bwysig iawn i'r ddau - dyma ganllawiau wrth eistedd. · Eisteddwch â chefn syth yng nghanol y gadair, â'ch ysgwyddau'n llac, gan gadw: · eich clustiau'n uniongyrchol uwchben eich ysgwyddau; · eich ysgwyddau uwchben eich cluniau; · eich traed yn gadarn ar lawr; · eich sodlau ychydig y tu ôl i goesau blaen y gadair; · eich dwylo'n dal/cynnal eich offeryn neu ar yr allweddau. |
||
· Penderfynwch faint o symud sy'n briodol |
· Wrth chwarae rhai darnau, gallwch gyfuno symudiadau a gweithredoedd syml i ategu eich perfformiad. Ond peidiwch â gwneud gormod, gan y gall hyn amharu ar ansawdd eich sain. Bydd gormod o symud yn effeithio ar eich osgo a'ch anadlu hefyd. |
||
2 |
· Anadlu (i chwythbrennau ac offerynnau pres) |
· Sicrhewch eich bod yn gwybod sut i anadlu'n gywir i gynnal fy chwarae |
· Dechreuwch bob amser ag ymarferion anadlu i ddatblygu eich techneg. Dyma un ymarfer ichi roi cynnig arni: · Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ymlacio'n llwyr. · Anadlwch allan i wagu'r ysgyfaint yn llwyr. · Anadlwch i mewn a gadael i gyhyrau'r bol ymlacio tuag allan, a theimlo'ch asennau'n ehangu tuag allan. · Chwaraewch un nodyn a chadw'ch asennau wedi'u gwthio allan am gyhyd ag y gallwch. · Peidiwch â newid y nodyn o ran traw na chryfder, gweithiwch ar sain gyson a chyfoethog. |
· Sicrhewch nad ydych chi allan o wynt ar ddiwedd pob cymal |
· Daliwch ati â'r ymarferion anadlu wrth ymarfer er mwyn datblygu eich techneg. Dyma un ymarfer ichi roi cynnig arni: · Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ymlacio'n llwyr. · Anadlwch allan i wagu'r ysgyfaint yn llwyr. · Anadlwch i mewn a gadael i gyhyrau'r bol ymlacio tuag allan, a theimlo'ch asennau'n ehangu tuag allan. · Chwaraewch un nodyn a chadw'ch asennau wedi'u gwthio allan gan gyfrif i 10, ac wedyn i 15, 20. · Gwnewch yr ymarfer eto ond gan ddefnyddio cymal penodol allan o ddarn o gerddoriaeth. |
||
· Penderfynwch ble dylech chi anadlu |
· Dylech geisio anadlu ar ddiwedd pob cymal, a fydd wedi'i nodi â marciau brawddegu fel arfer. · Weithiau bydd yr alaw'n gofyn eich bod yn anadlu yng nghanol y cymal oherwydd ei hyd. Dewiswch nodyn hir yng nghanol y cymal ac anadlwch ar ôl y nodyn hwnnw. |
||
3 |
· Paratoi |
· Cynheswch yn briodol |
· Meddyliwch am y cynhesu fel man cychwyn eich ymarfer. Mae llawer o chwythbrennau ac offerynnau pres angen eu 'cynhesu' yn llythrennol. · Gallai ymarferiad cynhesu ar offeryn sydd wedi'i diwnio olygu chwarae graddfeydd neu arpeggios; ar offeryn taro gallai olygu chwarae patrwm ostinato cyson. |
· Crëwch sŵn da |
· Canolbwyntiwch bob amser ar y sŵn rydych yn ei gynhyrchu wrth gynhesu/ chwarae eich ymarferion. · Mae gan bob offeryn sain/tôn unigryw. Rhaid canolbwyntio bob amser ar greu'r 'ansawdd sain' gorau posibl; wnaiff hyn ddim ond datblygu gyda digonedd o ymarfer ac amser! |
||
· Sicrhewch eich bod yn gallu chwarae'r nodau uchel |
· Hwyrach y cewch drafferth i chwarae nodau uchel ar rai offerynnau, e.e. offeryn llinynnol (oherwydd y pwysau sydd angen ei roi ar y tant) neu offeryn chwyth (oherwydd eich rheolaeth anadlu neu siâp y geg). · Gyda digon o ymarfer ac ymarferion fel welwch eich bod yn dechrau cyrraedd nodau uwch ac is yn haws. Mae gwahanol offerynnau'n gofyn am wahanol dechnegau i ddatblygu'r sgiliau hyn - gofynnwch i'ch athro/athrawes am gyngor. |
||
4 |
· Tiwnio |
· Tiwniwch eich offeryn pres · Tiwniwch eich offeryn chwythbrennau |
· Wrth diwnio offeryn pres daliwch i symud yn ôl a blaen rhwng y corn tiwnio/ mesurydd traw a'ch offeryn, gan symud y llithryn tiwnio, wedi'i iro'n iawn, i mewn neu allan fymryn nes bydd y ddau draw yn cyfateb yn berffaith. Bydd tynnu'r llithryn am allan yn hwyhau tiwbiau'r offeryn, ac yn gostwng y traw. Bydd gwthio'r llithryn i mewn yn byrhau'r tiwbiau, gan godi'r traw. · Tynnwch y baril tiwnio ger y cymal cyswllt uchaf ar eich chwythbren am allan os ydych yn swnio uwchben y nodyn. Bydd hyn yn gwneud yr offeryn yn hirach, fel ei fod yn swnio fymryn yn is. Gwthiwch y baril tiwnio ger y cymal cyswllt uchaf am i mewn os ydych dan y nodyn. Bydd hyn yn byrhau'r offeryn, gan wneud iddo swnio fymryn yn uwch. |
· Tiwniwch eich offeryn llinynnol |
· Gofalwch wrth diwnio unrhyw offeryn llinynnol am y tro cyntaf i'w droi i ffwrdd oddi wrthych. Yr amser mwyaf tebygol i'r tannau dorri'n annisgwyl yw wrth eu tiwnio'r tro cyntaf, ac mae'n bwysig cadw'ch llygaid o'r ffordd. Tiwniwch i fyny'n araf, a gwnewch yn siŵr fod gennych gorn tiwnio neu fesurydd traw, a'ch bod yn gwybod beth yw'r traw cywir er mwyn peidio gor-dynhau'r tannau. |
||
· Byddwch yn gymorth i'r unawdydd os ydych chi'n gyfeilydd |
· Os ydych yn cymryd rôl cyfeilydd fel rhan o'ch perfformiad dylech bob amser gynorthwyo'r unawdydd i diwnio, yn ystod ymarferion ac ar y llwyfan. Dylech bob amser fod yn barod i roi nodyn/nodau i'r unawdydd a'u hailadrodd yn ôl yr angen. · Os yw'r unawdydd yn chwarae offeryn nad yw mewn 'traw cyngerdd', fyddwch chi ddim yn chwarae'r un nodyn ar yr offeryn cyfeilio. Bydd offeryn mewn "Bb" yn gofyn i chi chwarae "Bb" ar eich offeryn 'traw cyngerdd' ac iddynt hwythau chwarae "C" ar eu hofferyn. |
||
5 |
· Gofalu am offerynnau |
· Gofalwch am eich offeryn pres |
· Mae angen iro falfiau offerynnau pres yn rheolaidd. I wneud hyn: (a) Dadsgriwiwch gaead y falf a thynnu'r falf allan tua hanner ffordd. (b) Rhowch dropyn o olew falfiau ar ran lydan y falf. (c) Gwthiwch y falf yn ôl i'w lle gan wneud yn siŵr ei bod wedi'i llinellu'n union. Sylwer: Mae gan y falf rigol sy'n ei chadw yn ei lle. I weld a ydyw wedi'i llinellu'n gywir ceisiwch droi'r falf yn ofalus. Os na wnaiff droi mae wedi'i llinellu'n iawn. Os yw'n troi daliwch i'w throi nes y clywch chi 'glic' bach a'i bod yn stopio troi. |
· Gofalwch am eich offeryn llinynnol (bwa) |
· Pan nad ydych yn defnyddio'ch offeryn dylid llacio'r rhawn ar y bwa (sgriw yw'r darn metel ar ben y bwa). Bydd hyn yn gwarchod y bwa rhag colli'i grymedd a'i densiwn. Ceisiwch beidio cyffwrdd rhawn y bwa, bydd y saim o'ch bysedd yn ei ddifetha. Er mwyn chwarae, bydd angen ichi roi resin ar rawn y bwa. Daw resin gyda'r rhan fwyaf o feiolinau. Rhwbiwch y resin yn erbyn rhawn y bwa nes y teimlwch rywfaint o ffrithiant rhwng y resin a'r rhawn. |
||
· Gofalwch am eich offeryn chwythbren (cyrs) |
· Gwneud sain brydferth yw holl amcan chwarae offeryn cerdd, ac mae angen helpu hyn drwy ddefnyddio corsen (brwynen) o'r ansawdd gorau. · Peidiwch â glynu gyda chorsen am rhy hir. Os ydych wedi canfod corsen dda mae'n hawdd dal i'w defnyddio heb sylwi ei bod yn dirywio. · Dysgwch sut i addasu cyrs. Bydd hyd yn oed gorsen clarinét newydd sbon yn elwa o wneud yn siŵr fod y cefn yn berffaith wastad, rhywbeth hawdd i'w gyflawni â chyllell gorsen syth. · Gwnewch yn siŵr fod gennych gyflenwad o gyrs sbâr bob amser. · Cadwch eich cyrs yn y cas - dydyn nhw'n dda i ddim wedi'u gadael gartref. · Mae gosod y gorsen yn y safle cywir ar y darn ceg (cl. a sacs.) yn hollbwysig. Bydd corsen dda'n swnio'n wael os yw wedi'i chamosod hyd yn oed y mymryn lleiaf. |