Gwybodaeth am y rig/plot goleuo: (ystyr 'rigio' yw gosod y goleuadau; y plot yw'r patrwm sut a phryd bydd y goleuadau'n cael eu defnyddio yn ystod y darn). Yn eich portffolio ymchwil dylech ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o rigio a sut i blotio. Hefyd dylai fod gennych fersiwn terfynol o'r plot goleuo a sgript gyda'r ciwiau.
Defnyddio lliw ac effeithiau goleuo gwahanol: dylech ddefnyddio leiafswm o bedwar lliw/effaith a lleiafswm o wyth llusern i gyflawni hyn.
Gweithredu'r bwrdd goleuo'n gywir yn ystod y perfformiad: bydd angen ichi weithredu'r bwrdd yn fyw.
Creadigrwydd wrth ddylunio: mae angen ichi ddangos eich bod yn deall sut mae goleuo'n cyfrannu i'r perfformiad cyffredinol, h.y.: awyrgylch, amser, lle, ac ati, gan fod mor greadigol â phosib wrth eu dylunio.
Sgiliau cydweithredu: dylech fod yn rhan o'r holl broses a deall pwysigrwydd eich rôl yn y darlun mawr. Mae angen ichi allu gweithio gydag eraill, cyfaddawdu a dylai eich perfformiad wneud cyfraniad pwysig i'r darn cyffredinol.
Gweithredu |
Er mwyn bod yn llwyddiannus |
Cyngor i'ch helpu |
|
1 |
· Rigio'r goleuadau |
· Penderfynwch ble dylai'r goleuadau fynd, gan mai eich cyfrifoldeb chi yw hyn |
· Mae angen cynllun ar gyfer goleuadau pob perfformiad. Gellir symud llusern i greu'r effaith orau i'r perfformiad. |
· Gwnewch luniad eglur i ddangos ble dylai pob llusern fynd |
· Does dim disgwyl i chi rigio'r goleuadau ond mae angen ichi ddweud wrth rywun ymhle y dylai pob llusern fynd. Mae lluniad eglur o safle'r llusernau dangos eich bod yn ymwybodol o'r effeithiau rydych am eu cael yn eich perfformiad. |
||
· Cynlluniwch yr effeithiau rydych chi eisiau i'ch llusernau eu creu |
· Os nad oes gennych luniad, dydych chi ddim wedi cynllunio'r effeithiau rydych chi eu heisiau. Gwiriwch eich cynllun gyda'r athro/athrawes. Ydych chi'n defnyddio 8 llusern? Allwch chi greu 4 gwahanol gyflwr goleuo o'r wyth llusern? Beth ydyn nhw? |
||
2 |
· Plotio'r goleuadau |
· Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall sut mae'r ddesg oleuo'n gweithio |
· Mae'n hanfodol eich bod yn treulio amser gyda'ch athro/athrawes yn edrych ar sut mae'r ddesg yn gweithio. Mae arni ddwy set o raddolwyr - Dec A a B a dau feistr - un i bob dec. Mae ganddi un prif raddolydd hefyd. Oes gan eich desg unrhyw effeithiau fel botwm newid ciw-restr neu fflachio? Oes angen eu defnyddio yn eich perfformiad? |
· Gwnewch restr o ba lusernau sy'n mynd ar ba sianel |
· Penderfynwch ba lusernau fydd yn gweithio ar ba sianel. Bydd hyn yn eich helpu i greu eich ciw-restr ac yn rhoi synnwyr datblygiad ichi yn y perfformiad. Bydd y wybodaeth yma'n helpu eich cyflwyniad hefyd. |
||
· Meddyliwch beth wnewch chi os nad oes gennych ddigon o sianeli |
· Oes angen dyblu neu ddefnyddio grelcos (plygiau lluosog i oleuadau) neu becynnau aloha i sicrhau bod gennych ddigon o sianeli? |
||
3 |
· Defnyddio lampau |
Defnyddiwch o leiaf 8 llusern |
· 8 lamp yw'r isafswm. Os na allwch ddefnyddio 8 lamp yna chewch chi ddim sefyll y rhan hon o'r arholiad. |
· Dangoswch sut mae gwahanol lusernau'n rhoi gwahanol effeithiau |
· Ceisiwch ddefnyddio lampau gwahanol - mae sbotoleuadau'n rhoi effaith wahanol i Fresnels, a fydd PAR CANS ddim ond yn goleuo i un cyfeiriad. Meddyliwch am ba effaith sydd arnoch ei heisiau gan eich lampau ar y llwyfan. |
||
· Gwnewch yn siŵr fod y llusernau'n gweithio'n gywir |
· Fydd llusernau diffygiol ddim yn goleuo'r llwyfan yn iawn. Mae bylbiau sbâr yn ddefnyddiol. Gall bwlb chwythu unrhyw bryd felly gwnewch yn siŵr fod gennych rai sbâr cyn dechrau'r perfformiad |
||
4 |
· Defnyddio'r ddesg oleuo |
· Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu defnyddio bwrdd llaw |
· Gofynnwch i'ch athro/athrawes ddangos ichi sut mae bwrdd llaw'n gweithio |
· Dewch i wybod sut mae defnyddio dec A a B |
· Mae dau ddec ar fwrdd llaw er mwyn ichi allu paratoi'r ciwiau nesaf heb newid y cyflwr sydd ymlaen ar y funud. Gwnewch daflen ciwiau sy'n rhoi ystyriaeth i ba ddec y byddwch yn ei ddefnyddio. |
||
· Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am ddwysedd golau |
· Mae gan bob graddolydd rifau 1 - 10. O gymryd mai 10 yw 100% gallwch weithio allan y ganran o olau sydd eisiau ar gyfer pob llusern. Pan fyddwch yn hapus gyda chyflwr nodwch ef ar eich taflen ciwiau gyda chanran dwysedd i bob llusernau |
||
5 |
· Defnyddio lliw |
Defnyddiwch 4 effaith liw wahanol |
· Gall lliwiau helpu creu awyrgylch. Byddwch yn benodol yn eich dewis o liw ar gyfer eich perfformiad. Yn sylfaenol, gall glas gyfleu rhywbeth oer neu'r nos, a gwyrdd ddangos eiddigedd. Coch, wrth gwrs, yw dicter neu angerdd ond gallai melyn olygu cyfeillgarwch. Eto, byddwch yn benodol. |
· Ystyriwch pa emosiwn neu awyrgylch sydd angen ichi ei greu? |
· Gall penderfynu pa adwaith emosiynol sydd arnoch ei eisiau gan y gynulleidfa eich helpu i benderfynu pa liw i'w ddewis ar gyfer gwahanol agweddau o'r perfformiad. |
||
· Osgowch ddefnyddio gormod o liw gan y gall guddio mynegiant wynebau |
· Gwyliwch ddwyster eich golau. Cofiwch y gall fod angen ichi ychwanegu goleuadau wyneb blaen t? i helpu dangos mynegiant wynebau eich perfformwyr. Gwyliwch rhag cysgodion ar y llwyfan hefyd achos gall y rhain hefyd guddio mynegiant wyneb. Eich gwaith chi yw ychwanegu at yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan, nid tynnu oddi wrtho. |
||
6 |
· Defnyddio effeithiau goleuo |
· Penderfynwch a oes angen defnyddio Gobo |
· Disgiau metel yw GOBOs gyda siapiau fel ffenestri neu goed wedi'u torri allan ohonyn nhw. Gallwch eu gosod y tu mewn i sbotolau a chreu effaith ar y llwyfan. Gallwch ychwanegu lliw hefyd i helpu gyda'r awyrgylch. |
· Ystyriwch a ddylech ddefnyddio disg animeiddio neu oleuadau MAC |
· Gobo â modur ynddo yw disg animeiddio ac mae'n eistedd ar flaen sbotolau. Felly bydd eich gobo'n troi gan greu effaith ar y llwyfan. Golau cyfrifiadurol yw lamp MAC y gellir ei reoli i symud, a chanddo gobos mewnol a lliw i ychwanegu effaith i'ch perfformiad. Bydd rhaid i'ch athro/athrawes ddangos ichi sut i raglennu un o'r rhain a dydyn nhw ddim bob amser yn gweithio ar fwrdd llaw - efallai y bydd angen bwrdd cyfrifiadurol. |
||
· Cofiwch fod modd defnyddio tafluniadau fel goleuadau |
· Gallwch ddefnyddio tafluniadau dros yr actor fel effaith oleuo, yn enwedig os yw'n gwisgo gwisg olau o ran lliw. |
||
7 |
· Ymchwilio i'r arddull goleuo |
· Gwyliwch gynyrchiadau tebyg i weld pa effeithiau y gallech eu creu |
· Mae angen ichi wneud cyflwyniad cyn y perfformiad, felly os gallwch ddangos eich bod wedi ymchwilio i enghreifftiau tebyg o ddefnyddio goleuadau neu effeithiau goleuo, bydd yn dangos mor greadigol ydych chi. |
· Ymchwiliwch i sut mae'n bosib amseru effeithiau goleuo mewn gwahanol ffyrdd |
· Wrth wybod pa awyrgylch rydych chi'n ceisio'i greu byddwch yn gallu teimlo pa mor gyflym mae angen i'r goleuadau newid. Gallech fynd i ddüwch yn gyntaf neu gallech hyd yn oed draws-raddoli. Gallech bwyntio ambell olau mewn mannau penodol i ganolbwyntio'r gweithgaredd ar y llwyfan. Felly bydd ymchwilio gwahanol amseriadau ar gyfer effeithiau goleuo'n ddefnyddiol. |
||
· Cofiwch fod goleuadau'n gwneud mwy na goleuo gofod actio |
· Mae goleuadau'n goleuo'r gofod actio, ond nhw hefyd sy'n creu'r awyrgylch a'r ffocws i sylw'r gynulleidfa. Beth rydych chi eisiau i'r gynulleidfa ei deimlo? Ble rydych chi eisiau i'r gynulleidfa hoelio'i sylw? Bydd eich dyluniad goleuo'n helpu gyda hynny. |
||
8 |
· Amseru ciwiau |
· Gwnewch yn siŵr fod y ciwiau i gyd yn digwydd mewn da bryd |
· Mae'r amseru'n dibynnu ar yr awyrgylch rydych chi'n ceisio'i greu. Felly bydd traws-raddoliad araf yn helpu'r gynulleidfa i ystyried yr hyn sydd newydd ddigwydd ar y llwyfan. · Gallech ddifetha perfformiad drwy beidio rhoi'r ciwiau i fyny ar yr amser iawn. Gallai perfformiwr fod yn aros am giw golau sydd ddim yn dod ac felly ni fyddai'n dod ar y llwyfan. Cofiwch eich bod yn rhan o'r tîm i greu perfformiad llwyddiannus. |